Ymateb y Llywodraeth Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwyntiau Craffu Technegol a’r pwynt Craffu ar Rinweddau a godwyd ac mae wedi darparu ymatebion mewn perthynas â’r pwyntiau Craffu Technegol isod.  Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i Bwyllgor y Senedd am gadarnhau nad oes angen ymateb mewn perthynas â’r pwynt Craffu ar Rinweddau .

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y gallai cyfeiriadau fod yn fwy penodol mewn mannau. Fodd bynnag, nid ystyrir bod angen cywiro'r rhain oherwydd, o dan yr amgylchiadau, mae'r ystyr cyfreithiol cywir yn glir.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r pwynt a wnaed ond yn ystyried bod y diffiniadau o "cyflogi", "cyflogai" a "cyflogaeth" yn rheoliad 2 a Pharagraff 18 o Atodlen 4 yn cyflawni'r effaith gyfreithiol a fwriedir ac nad oes angen cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:

Mae rheoliad 4(a) yn cyfeirio at baragraff 23 "o'r telerau gwasanaeth". Mae rheoliad 2 yn diffinio "telerau gwasanaeth" fel "y telerau a nodir yn Atodlen 4". Felly, mae lleoliad paragraff 23 wedi ei nodi ac nid oes angen cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r pwynt a wnaed ond yn ystyried yng nghyd-destun rheoliad 7(4) ac Atodlen 1 y byddai'r cyfeiriad at "paragraff (2)(n)" yn cael ei ddarllen fel cyfeiriad at "paragraff 1(2)(n)" , ac felly, nid oes gwir angen cywiriad. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau i ofyn am slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y gallai'r darpariaethau fod yn fwy manwl. Fodd bynnag, gan na ellir dehongli'r darpariaethau hyn mewn unrhyw ffordd arall heblaw fel cyfeiriad at "ymarferydd cymwys", nid ystyrir bod angen cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai cyfeirio at "ffeithiau" yn hytrach na "ffactorau" yn rheoliad 13(5) yn fwy cyson. Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth yn cynhyrchu'r effaith gyfreithiol gywir. Mae'n amlwg mai'r ffeithiau ym mharagraff 10 o Atodlen 3 yw'r ffactorau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(5) ac mae'n amlwg bod yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y materion hynny ym mharagraff 10 o Atodlen 3 ac felly nid oes angen cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 7:

1 Chwefror 2006 yw'r dyddiad y sefydlwyd system y rhestr atodol o dan
Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006
. 30 Gorffennaf 2002 yw'r dyddiad perthnasol mewn perthynas â'r rhestr offthalmig ers 2016.

Nid oes unrhyw newid polisi arfaethedig i'r seiliau hyn dros ddileu ymarferydd o restr. Felly, mae'r darpariaethau'n cynnal y sefyllfa bresennol.

 

Pwynt Craffu Technegol 8:

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r pwynt a wnaed ond yn ystyried y byddai priod luniad y ddarpariaeth yn arwain at ddarllen y cyfeiriad fel cyfeiriad at reoliad 13 gan nad yw rheoliad 15 yn ymdrin â gwrthodiadau. Felly, nid oes gwir angen cywiro. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau i weld a ellir mynd i'r afael â'r mater hwn drwy gyfrwng slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 9:

Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn cael cyfarwyddyd i hysbysu Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG mewn perthynas ag achosion o dwyll o fewn ystyr rheoliad 17(3)(d) hyd nes y bydd diwygiad i'r rheoliadau i'r perwyl hwnnw.

 

Pwynt Craffu Technegol 10:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai'n gyson cyfeirio at "ymarferydd cymwysedig".Fodd bynnag, mae'r ystyr cyfreithiol cywir yn glir gan mai'r unig bobl y mae'n berthnasol iddynt yw'r rhai sy'n "ymarferwyr cymwysedig".

 

Pwynt Craffu Technegol 11:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai cyfeirio at "ymarferydd cymwysedig" yn gyson, fodd bynnag, mae'r ystyr gyfreithiol gywir yn glir gan mai'r unig bobl y mae'n berthnasol iddynt yw'r rhai sy'n "ymarferwyr cymwys".

 

Pwynt Craffu Technegol 12:

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r pwynt ond yn ystyried nad oes amheuaeth ynghylch y Rheoliadau y cyfeirir atynt. Er bod Llywodraeth Cymru, felly, yn ystyried nad oes angen cywiriad, mae mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o egluro hyn drwy gyfrwng slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 13:

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r gwall yn y croesgyfeirio ac mae mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o slip cywiro i gyfeirio at baragraff "(i)" yn hytrach nag "(g)".

 

Pwynt Craffu Technegol 14:

Mae'r Llywodraeth yn nodi yr hepgorwyd y ddau air "a'r profiad" yn nhestun Cymraeg paragraff 3(7) o Atodlen 2. Fodd bynnag, mae paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau, rheoliad 9 ac Adran 71 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i gyd yn cyfeirio at "cymwysterau rhagnodedig" ac felly ni all unrhyw effaith andwyol fod o hepgor y geiriau hynny. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o fewnosod y geiriau hyn drwy gyfrwng slip cywiro fel bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfwerth.

 

Pwynt Craffu Technegol 15:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai unwaith yn unig yn yr Atodlen y defnyddir y term "gwasanaeth iechyd". Fodd bynnag, ystyrir bod yr ystyr cyfreithiol cywir yn glir ac nad oes angen cywiro felly.

 

Pwynt Craffu Technegol 16:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai'n gyson cyfeirio at "ymarferydd cymwysedig". Fodd bynnag, mae'r ystyr cyfreithiol cywir yn glir o dan yr amgylchiadau gan mai'r unig bobl y mae'n berthnasol iddynt yw'r rhai sy'n "ymarferwyr cymwysedig".

 

Pwynt Craffu Technegol 17:

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod y ddarpariaeth yn cael yr effaith gyfreithiol gywir gan fod "tystysgrif" yn "ddogfen".

 

Pwynt Craffu Technegol 18:

O dan Atodlen 3, paragraffau 10(1)(b) a 15(2)(b), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ("BILl") ystyried "yr holl ffeithiau y mae'n ymddangos eu bod yn berthnasol" gan gynnwys y rhai a restrwyd yn benodol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Mae'r cyfnod o amser ers euogfarn yn arbennig o berthnasol o ystyried y potensial i berson fod wedi ei gael yn euog o drosedd ymhell ar ôl i'r drosedd gael ei chyflawni. Felly, mae'r cyfnod o amser ers y drosedd, ac ers yr euogfarn am y drosedd, wedi eu rhestru fel ffeithiau penodol i'w hystyried ac mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod y ddarpariaeth hon yn addas.

 

Pwynt Craffu Technegol 19:

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r gwahaniaeth bach iawn rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg. Fodd bynnag, nid ystyrir bod angen cywiro hyn gan fod y ddarpariaeth yn cael yr effaith gyfreithiol gywir.

 

Pwynt Craffu Technegol 20:

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod y ddarpariaeth hon yn effeithiol. Mae paragraff 15(1) o Atodlen 4 yn cyfeirio at "wybodaeth" a ddarperir o dan baragraff 7 o Atodlen 3. Byddai hyn ynymdrin ag unrhyw wybodaeth sy'n rhan o ddatganiad a ddarperir gan ymarferydd cymwysedig, a dyna yw'r effaith a fwriedir.

 

Pwynt Craffu Technegol 21:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai'n gyson cyfeirio at "ymarferydd cymwysedig". Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth yn cael yr effaith gyfreithiol gywir gan mai'r unig bobl y mae'n berthnasol iddynt yw'r rhai sy'n "ymarferwyr cymwysedig".

 

Pwynt Craffu Technegol 22:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y gallai'r geiriad a awgrymir fod wedi bod yn fwy manwl. Fodd bynnag, yn y cyd-destun, mae'r bwriad a'r effaith gyfreithiol yn glir ac nid ystyrir bod angen cywiro hyn.